
Manylion
- Dimensiynau gwaelod y lamp: 29cm uchder x 20cm diamedr
- Wedi’i ffitio â chebl amryliw cowtm
- Dimensiynau y lampshêd: 30cm diamedr x 21cm uchder
- Eich dewis chi o un o ein lampshêds Crawia neu retro
- Wedi'i wneud â llaw
- Deunyddiau: Lampshêd Linen neu Cotton poplin, gwaelod lamp gwydr gwyrdd wedi'i ail-gylchu
Gwybodaeth am y Cynnyrch
Lamp prydferth gwydr oren wedi'i ail-gylchu gyda lampshêd diamedr 30cm. Eich dewis chi o un o ein lampshêds Crawia neu retro.
Ysbrydolwyd y cynllun Crawia gan y crawia llechi hyfryd ar hyd llwybrau ardal chwarelyddol gogledd orllewin Cymru. O edrych ar y gair ‘craw’ mewn geiriadur ceir y diffiniad hwn: Craw – a piece of waste slate. Dyma’r darnau wast; y gweiniaid ymysg y cryfion. Ond maen nhw yma o hyd. Mae rhai wedi disgrifio’r crawia fel creithiau. Ond gall craith neu'r amherffaith fod yn dlws a’r crawia hyn fu’n ysbrydoliaeth i ni greu cynllun tecstil i’w osod ar gysgodlen lamp. Dyma ein teyrnged ni i’r crawia ac i’r crefftwyr fu’n eu creu a’u gosod.
Mae’r cynllun retro yn bwrw trem yn ôl i ail hanner yr 20fed ganrif, gan chwistrellu lliw a sbort i’r cartref heddiw. Dyw cynllun da byth yn dyddio!
NODIADAU PWYSIG:
- Mae pob un o’n lampshêds wedi’i leinio â chefn gwres-ddiogel sydd wedi ei brofi ac wedi pasio’r prawf gwrid-wifren a hynny gan y Lighting Association.
- Bydd angen bwlb bayonet B22. Max 40W
- Nid yw’r bwlb yn gynwysedig. Argymhellir defnyddio bylbiau ynni isel gyda’n lampau.
Dosbarthu
- £ 10 postio
- Gwneir ein holl lampau i archeb. Caniatewch, os gwelwch yn dda, 2-3 wythnos ar gyfer deliferi
Rydym yn delifrio cyn gynted ag y bo modd, hysbyswch ni, os gwelwch yn dda, os oes gennych ddedlein fel y gallwn wneud popeth posib i ymateb iddo.