Manylion
- Dyluniad unigryw gan Gola
- Ar gael mewn 5 maint gwahanol
- Wedi'i wneud â llaw
- Deunyddiau: Lliain
- Pendant neu lamp bwrdd
Gwybodaeth am y Cynnyrch
Lampshêd hardd gyda phatrwm unigryw Crawia amryliw ar gefndir gwyrdd. Ychwanegiad hyfryd i'ch cartref.
Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan y crawia llechi hyfryd ar hyd llwybrau ardal chwarelyddol gogledd orllewin Cymru. O edrych ar y gair ‘craw’ mewn geiriadur ceir y diffiniad hwn: Craw – a piece of waste slate. Dyma’r darnau wast; y gweiniaid ymysg y cryfion. Ond maen nhw yma o hyd. Mae rhai wedi disgrifio’r crawia fel creithiau. Ond gall craith neu'r amherffaith fod yn dlws a’r crawia hyn fu’n ysbrydoliaeth i ni greu cynllun tecstil i’w osod ar gysgodlen lamp. Dyma ein teyrnged ni i’r crawia ac i’r crefftwyr fu’n eu creu a’u gosod.
Dimensiynau:
Diamedr 25cm x uchder 21cm
Diamedr 30cm x uchder 21cm
Diamedr 35cm x uchder 21cm
Diamedr 40cm x uchder 25cm
Diamedr 45cm x uchder 25cm
NODIADAU PWYSIG:
- Mae pob un o’n lampshêds wedi’i leinio â chefn gwres-ddiogel sydd wedi ei brofi ac wedi pasio’r prawf gwrid-wifren a hynny gan y Lighting Association.
- Nid yw gwaelod y lamp yn gynwysedig.
- Nid yw’r bwlb yn gynwysedig. Argymhellir defnyddio bylbiau ynni isel gyda’n lampau.
Dosbarthu
- £ 5 postio
- Gwneir ein holl lampau i archeb. Caniatewch, os gwelwch yn dda, 2-3 wythnos ar gyfer deliferi
Rydym yn delifrio cyn gynted ag y bo modd, hysbyswch ni, os gwelwch yn dda, os oes gennych ddedlein fel y gallwn wneud popeth posib i ymateb iddo.